Magu moch hapus yn yr awyr agored

Croeso i Foch Coch

Gwnawn gigoedd blasus a salami wedi’u halltu ac wedi’u sychu ag aer, yma ar ein fferm fach ein hunain yng Nghymru. Wedi’i crefftio â llaw a gan ddefnyddio’r cynhwysion naturiol gorau, mae’r cigoedd yn cael eu sychu ag aer yn araf dros sawl mis. Rydym hefyd yn darparu nifer fach o focsys cig o ansawdd.

Lles Uchel

Trwy ofalu am ein hanifeiliaid, rydym yn sicrhau bod ganddyn nhw amgylcheddau naturiol helaeth i grwydro ynddynt gan gynnwys coetir a thrybollau. Mae’n ganolog i’r ffordd rydyn ni’n ffermio, law yn llaw â natur. Ar nosweithiau haf twym rhydyn wedi dod o hyd i foch yn cysgu gyda’i gilydd o dan goeden yn hytrach na dod yn ôl i’w twlc arc..

Blas rhagorol

Gyda’u clustiau i fyny, yn chwilfrydig eu natur, a bod â chôt goch hardd, mae Tamworths yn addas iawn ar gyfer chwilota yn yr awyr agored. Maent yn pori’n ofalus ar suran gwyllt, dail y ddraenen wen, ffacbys a’r meillion yn yr haf, ac yn cloddio am wreiddiau yn y gaeaf. Mae ein Tamworths yn tyfu’n araf iawn sydd, ynghyd â diet chwilota, yn arwain at ddyfnder blas rhagorol nad yw i’w gael yn y mwyafrif o borc heddiw.

Brîd prin

Fel y brîd moch hynaf ym Mhrydain, mae Tamworths wedi aros heb eu cyffwrdd gan ffermio masnachol. Gan gadw cyfanrwydd a blas y cig, maent yn enwog am eu hansawdd bwyta, eu cig moch, ac yn berffaith ar gyfer salami! Wedi’i ddosbarthu fel brîd prin oherwydd eu niferoedd isel, mae ein bridio pedigri yn sicrhau bod eu llinellau gwaed yn cael eu gwarchod.

Ffermio cynaliadwy

Mae cefnogi bioamrywiaeth ac iechyd pridd yn allweddol i edrych ar ôl y tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i ddod ac wrth fagu anifeiliaid iach.

Rydym yn gyffrous iawn i ymrwymo â’r arfer ffermio sy’n dod i’r amlwg o hau cnydau gorchudd. Mae’r rhain yn darparu porthiant cyfoethog i’r moch, gan roi biomau perfedd iachach iddynt, cynyddu’r systemau gwreiddiau, a gwella strwythur y pridd.

Rydym yn defnyddio homeopathi fel dull cyntaf o ymdrin ag iechyd anifeiliaid. Mae hyn yn lleihau straen ac yn trin symptomau yn gyflym cyn iddynt ddatblygu. Dim ond os oes ei angen y mae ein hanifeiliaid yn derbyn meddyginiaeth ac ni ddefnyddir unrhyw driniaethau hormonau na gwrthfiotigau arferol.

Rhydd o blastig

Rydym yn credu yn gryf bod ein holl ddeunydd pacio yn rhydd o blastig. Mae ein cynnyrch pecynnau yn defnyddio eco-bacio dan wactod wedi ei wneud o ffibrau planhigion. Maent yn gompostiadwy yn y cartref, neu ble bynnag y byddant yn diweddu yn y pen draw, byddant yn gwbl fioddiraddadwy ac yn gyfeillgar i’r cefnfor.

Mae gan Foch Coch bolisi amgylcheddol helaeth.

Shopping Cart

Join our Pig Club!

Pig club is free to join and brings many benefits! As a welcome to our great tasting, truly free range pork, pig club gives you 10% off your first order! 

From smoky chorizo and handmade salami to fresh pedigree Tamworth pork boxes – we deliver great flavour straight to your door! 

We promise you won’t be bombarded with emails, and that we wont use your information for any other purpose.

Ymunwch â'n Clwb Moch!

Mae’r clwb moch yn rhad ac am ddim i ymuno gyda ac yn dod â llawer o fuddion! Cofrestrwch cyn 15fed Chwefror i dderbyn 10% oddi ar eich archeb gyntaf yn 2021.

O chorizo myglyd a salami wedi’u gwneud â llaw i flychau porc pedigri Tamworth ffres – ddanfonwn blas gwych yn syth i’ch drws!

Gallwn addo na chewch eich peledu â negeseuon e-bost, ac na fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth at unrhyw bwrpas arall.