Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Symudodd Betan a Rhun i’w fferm fach yn Ne-Orllewin Cymru yn 2019. Ar ôl gweithio fel aciwbigwr am naw mlynedd, penderfynodd Bethan ei bod am ddilyn ei diddordebau ei hun mewn ffermio.
Yn 2020 cwblhaodd hi y cwrs HAWL sy’n defnyddio homeopatheg i drin anifeiliad fferm.
Yn deillio o’i chefndir mewn iechyd a hunan-les, mae Bethan hefyd yn cynhyrchu Surop Eirin Ysgaw Ji Binc o’r fferm.
Teimlwn yn angerddol am ddarparu fuarth agored ac mae gan ein holl anifeiliaid amgylchedd helaeth ac amrywiol i grwydro ac archwilio.
Mae ganddynt hefyd ryddid i nythu a thynnu fel y mynnant.
Mae dileu a lleihau ffactorau sy’n rhoi straen i anifeiliaid, a defnyddio homeopathi fel y man galw cyntaf yn golygu bod angen meddyginiaethau yn llawer llai.
Mae ein holl ddeunydd pacio yn ddi-blastig, yn fioddiraddadwy ac yn gyfeillgar i’r cefnfor.
Rydym yn ymroddedig i ffermio cynaliadwy, cefnogi bioamrywiaeth ac iechyd pridd.
Copyright © 2021 Moch Coch